Anghenion dysgu ychwanegol neu 'ADY'
Efallai y bydd gan berson ag ADY anhawster neu anabledd dysgu.
Gallai hyn fod oherwydd cyflwr meddygol neu rywbeth arall.
Gallai hyn olygu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar yr unigolyn.
Mae gan blentyn o oedran ysgol neu berson dros yr oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd os ydynt:
- yn canfod dysgu'n llawer anoddach na phlant eraill o’r un oedran, neu os oes ganddo
- anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai hyn ei gwneud yn anodd iddynt ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i eraill
Mae gan blentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os bydd yn gymwys o dan y meini prawf uchod pan fyddant yn oed ysgol.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDY)
Mae gan hyn ystyron gwahanol ar gyfer oedrannau gwahanol.
Pobl tair oed a throsodd
Darpariaeth addysg neu hyfforddiant sy'n ychwanegol neu'n wahanol i addysg brif ffrwd.
Gall hyn hefyd gynnwys darpariaethau mewn addysg bellach neu feithrinfeydd.
Plant o dan dair oed
Mae hyn yn golygu darpariaethau addysgol o unrhyw fath.
Addysg feithrin
Addysg sy'n addas ar gyfer plentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan oedran ysgol gorfodol.
Os oes angen CDU ar y person ifanc, bydd yr ysgol yn ystyried a oes gan y disgybl ADY sydd angen CDY.
Gall ALP fod ar sawl ffurf. Gellir darparu’r cymorth mewn grwpiau bach, neu ddarpariaeth unigol neu bwrpasol.
Darperir hyn fel arfer gan ddefnyddio adnoddau'r ysgol.
Gallai gynnwys cymorth a chyngor/gwasanaeth gan wasanaeth ADY a Chynhwysiant yr Awdurdod Lleol.
Gall ALP ar gyfer y rhai dan dair oed fod ar sawl ffurf. Er enghraifft, gwaith grŵp neu gymorth unigol lle mae'r disgybl yn derbyn darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
Gallai hyn gynnwys:
- cymorth iechyd arbenigol
- cymorth corfforol, cyfathrebu neu synhwyraidd
o fewn eu lleoliad addysg.
Mae Gwasanaethau ADY a Chynhwysiant yr Awdurdod Lleol yn gweithio ar y cyd gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda:
- rhieni/gofalwyr
- y person ifanc
- ysgolion
- asiantaethau eraill
Gallwn ddarparu ar gyfer disgyblion sydd ag neu a allai fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- cyngor
- canllawiau
- cefnogaeth