Darperir cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol ar gyfer:
- disgyblion oed cynradd sy'n byw 2 filltir neu fwy o'u dalgylch neu'r ysgol agosaf sydd ar gael
- disgyblion oed uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u dalgylch neu'r ysgol agosaf sydd ar gael
Mae hyn yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.
Mae plentyn yn gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim i ysgol arall cyn belled â bod yr ysgol hon yn agosach nag ysgol y dalgylch a y pellter cymwys yn cael ei fodloni
Os byddwch yn dewis anfon eich plentyn i ysgol nad yw'n ysgol eich dalgylch, chi fydd yn gyfrifol am yr holl gostau a threfniadau cludiant.
Os yw eich cais am le mewn ysgol a ffefrir yn llwyddiannus, byddwch ond yn gymwys ar gyfer cymorth os ydy'ch plentyn yn mynychu, yr ysgol ddalgylch fel dewis amgen a yr ail ysgol agosaf (a bennir gan y cyngor).
Mae angen bodloni'r pellter cymhwysol fodd bynnag.
Cyn-ymgeiswyr
Nid oes angen i ddisgyblion sydd eisoes yn defnyddio cludiant ysgol ailymgeisio oni bai eu bod wedi symud cartref neu ysgol.
Bydd tocynnau tymor yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig a'u hanfon i'ch cyfeiriad cartref.
Os oes newid ysgol, cyfeiriad cartref neu os bydd y cyngor yn dod o hyd i lwybr cerdded byrrach o fewn y terfyn meini prawf pellter, efallai na fydd plentyn bellach yn gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim.
2024-25 o geisiadau
Gall rhieni plant cymwys sy'n dechrau dosbarth derbyn ysgol neu flwyddyn 7 ym mis Medi 2024 wneud cais nawr am gludiant ysgol am ddim.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Mai 2024.
Dim ond disgyblion yn y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 a disgyblion sy'n gwneud cais cyntaf sydd angen gwneud cais.
Gall disgyblion sy’n mynychu’r coleg ym mis Medi 2024 wneud cais am gludiant nawr.
Sicrhewch y derbynnir ceisiadau cyn y dyddiad cau fel y bydd eich grant teithio yn ei le ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Gorffennaf 2024.
Os derbynnir eich cais ar ôl y dyddiad cau, efallai na fydd eich grant teithio yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd.
Mae ceisiadau am seddau consesiynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/2025 bellach ar agor.
Mae'r seddi hyn ar gael i deithwyr sy'n talu ar gludiant dan gontract a weithredir gan y cyngor.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Awst 2024.
Ymdrinnir â cheisiadau ar sail y cyntaf i'r felin.
Trefnir cludiant am ddim i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Darperir y gwasanaeth fel arfer i blant sy'n mynychu naill ai ysgolion arbennig neu uned sy'n gysylltiedig ag ysgol brif ffrwd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we ADY.
Mae ceisiadau am gludiant ôl-16 ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 bellach ar agor.
Gall myfyrwyr ôl-16 sy'n gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol o dan y meini prawf pellter y cytunwyd arnynt gael grant teithio dewisol o £150 am bob blwyddyn academaidd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Awst 2024.
Sut mae penderfyniad yn cael ei wneud
Mae'r cyngor yn defnyddio meddalwedd llwybro i benderfynu ar y llwybr cerdded byrraf i'r ysgol.
Mae'r feddalwedd wedi cael ei chymeradwyo a'i phrofi gan staff y cyngor. Dyma'r unig offeryn mesur a ddefnyddir gan y cyngor.
Mesurir pellteroedd yn ôl y fynedfa agosaf at y tŷ a'r fynedfa agosaf i'r ysgol. Cyfrifoldeb yr oedolyn yw penderfynu a ddylid mynd gyda'r plentyn.
Weithiau, mae angen mannau codi ar gyfer plant pan nad yw'n bosibl i gerbydau basio cartrefi. Dylai'r man codi fod yn llai na milltir i ffwrdd o'r cartref fel arfer.
Gellid darparu cludiant am ddim os bydd y cyngor yn penderfynu nad oes llwybr ar gael i'r ysgol. Ni all rhieni hawlio costau yn ôl am drefniadau os oes cludiant gan y cyngor ar gael.
Os bydd eich plentyn yn symud y tu allan i ddalgylch yr ysgol yn ystod blwyddyn un neu ddau yr ysgol, ni fydd cludiant am ddim yn cael ei ddarparu iddo fel arfer.
Ystyrir ceisiadau am symudiadau yn ystod y drydedd flwyddyn neu flynyddoedd diweddarach. Dim ond os gellir darparu trafnidiaeth gan wasanaethau presennol yng Nghasnewydd y byddai hyn yn digwydd.
Gellir darparu cludiant ysgol am ddim ar sail feddygol i ddisgyblion sy'n byw yn y dalgylch.
Ni ddarperir cludiant ysgol am ddim ar gyfer:
- disgyblion sy'n mynychu ysgol breifat
- myfyrwyr 19 oed a throsodd (oni bai bod y cwrs wedi dechrau cyn iddynt gyrraedd 19 oed)