Trosolwg
Mae rhaid gwneud cais ar gyfer pob plentyn sydd angen lle mewn meithrinfa neu ysgol, neu i newid lle ysgol yn ystod y flwyddyn.
Gallwch ddewis addysg cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg neu ysgolion ffydd.
Nid oes angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg er mwyn i'ch plentyn fynychu ysgol gyfrwng Cymraeg.
Cylch derbyniadau blynyddol
Dyma lle rydych yn gwneud cais am y flwyddyn mynediad arferol i ysgol ac fe'i gelwir yn drosglwyddiad cylch/cyfnod derbyn arferol.
Ar gyfer pob rownd derbyniadau blynyddol mae dyddiad cau ar gyfer gwneud eich cais.
Os byddwch yn methu'r dyddiad cau hwn, neu'n newid eich dewis ar ôl y dyddiad cau, byddwch yn llai tebygol o ennill lle yn yr ysgol o'ch dewis.
Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn
Ar gyfer mynediad y tu allan i'r cylch derbyn blynyddol, bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn.
Fel arfer, caiff ceisiadau eu prosesu o fewn 15 diwrnod ysgol (neu 28 diwrnod calendr, pa un bynnag sydd gyntaf), ond nid yw hyn wedi'i warantu.
Chweched dosbarth
Mae ceisiadau derbyn chweched dosbarth yn cael eu trin gan gorff llywodraethu pob ysgol uwchradd yng Nghasnewydd. Gwnewch gais uniongyrchol i'r ysgol uwchradd.
Addysg ddewisol yn y cartref
Yng Nghymru a gweddill y DU, er bod addysg yn orfodol, nid yw mynd i’r ysgol yn orfodol.
Nid oes gan awdurdodau lleol unrhyw gyfrifoldeb na rhwymedigaeth gyfreithiol i ariannu rhieni sy'n dewis addysgu yn y cartref.
Dogfennau
- Polisi derbyn i ysgolion 2025-26_0.pdf (PDF, 11.55 MB) Lawrlwythwch
- Polisi derbyn i ysgolion 2024-25.pdf (PDF, 7.51 MB) Lawrlwythwch
- Hysbysiad preifatrwydd - Derbyniadau i ysgolion.pdf (PDF, 213.4 KB) Lawrlwythwch
- Hysbysiad preifatrwydd - Gwasanaeth lles addysg dewisol gartref_0.pdf (PDF, 213.3 KB) Lawrlwythwch
- Canllawiau ar leoli disgyblion y tu allan i’w blwyddyn gronolegol 2023-25.pdf (PDF, 915.99 KB) Lawrlwythwch