Trosglwyddo yn ystod y flwyddyn

Rydym yn deall y gallech fod eisiau newid ysgol eich plentyn yn ystod y tymor. Mae'n bwysig i feddwl am yr opsiwn gorau i'ch plentyn.

Gall newid ysgol gael effaith negyddol ar eich plentyn, fel:

  • effeithio ar gynnydd academaidd
  • effeithio ar amgylchedd cymdeithasol, grwpiau cyfeillgarwch, gweithgareddau allgyrsiol
  • efallai na fydd lle i'ch plentyn yn yr ysgol rydych chi ei heisiau 
  • os ydych am drosglwyddo brodyr a chwiorydd, efallai na fyddant i gyd yn cael cynnig o’r un ysgol
  • gallai nifer y cymwysterau y gall eich plentyn eu cael ym mlwyddyn 10/11 gael eu heffeithio. Efallai nad oes gan yr ysgol newydd yr un opsiynau ar gael

Oni bai eich bod wir angen newid ysgol, fel ar ôl symud tŷ, rydym yn argymell eich bod yn gweithio gydag ysgol bresennol eich plentyn. Efallai y bydd siarad â'ch plentyn neu'r ysgol yn osgoi gorfod trosglwyddo.

Mae rhai rhesymau cyffredin dros fod eisiau trosglwyddiad isod. Dylech ddilyn y cyngor cyn gwneud cais.

Cofiwch, ni ddylai unrhyw ysgol eich cynghori chi na'ch plentyn i drosglwyddo. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â ni.

Bod yn anhapus gyda'r ysgol

Dylech chi

Drafod eich pryderon gyda'r pennaeth blwyddyn, athrawon neu bennaeth.

Os nad ydych chi'n teimlo bod eich pryder yn cael ei gymryd o ddifrif, siaradwch â'r corff Llywodraethol.

Ein cyngor

Nid yw symud ysgolion yn datrys y broblem.

Mae'r mater yn aml yn ymddangos yn ôl i fyny yn yr ysgol newydd. Dyna pam ei bod yn well mynd i'r afael â'r mater cyn i chi symud.

Diffyg presenoldeb yn yr ysgol

Dylech chi

Siarad â'ch plentyn i ddarganfod pam nad yw'n mynd i'r ysgol.

Siaradwch ag athrawon eich plentyn. A oes rhywbeth maen nhw'n poeni amdano?

Ein cyngor

Rhaid i blant fynd i'r ysgol.

Rydym yn aml yn gweld bod siarad â'ch plentyn a'r ysgol yn gallu rhoi camau ar waith i wella pethau.

Gofynnwch i'r ysgol roi manylion eu swyddog lles addysg i chi.

Bwlio a lles

Dylech chi

Gysylltu â'r ysgol a gofyn am gopi o'u polisïau ar:

  • diogelu
  • bwlio
  • lles emosiynol

Os ydych chi'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu dilyn, cysylltwch â'r ysgol.

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i fynd i'r afael â bwlio. Mae gan bob ysgol y gallu i wneud hyn.

Os ydych chi'n teimlo nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, cysylltwch â'r:

  • pennaeth
  • corff llywodraethu
  • heddlu (dim ond mewn achosion difrifol iawn)

Ein cyngor

Nid ydym yn argymell symud oherwydd materion bwlio neu les.

Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i amddiffyn lles corfforol ac emosiynol disgyblion.

Os nad yw hyn wedi digwydd, trafodwch ef gyda'r ysgol, a all edrych ar:

  • symud dosbarth
  • cyfryngu
  • cyfarfodydd teulu

Materion heb eu datrys

Dylech chi

Wneud apwyntiad i siarad â'r pennaeth.

Os nad yw hyn yn gweithio, gallwch godi cwyn gyda'r corff llywodraethu.

Mae gan yr ysgol gyfrifoldeb i ddatrys materion gyda'ch plentyn.

Ein cyngor

Rydym yn argymell bod rhieni yn trafod eu problemau gyda'r ysgol bresennol.

Ni fyddai'n deg disgwyl i'ch plentyn gael 'dechrau o'r newydd' oherwydd nad yw'r ysgol yn gallu mynd i'r afael â'ch pryderon.

Wynebu gwaharddiad

Dylech chi

Siarad ag athro, pennaeth blwyddyn neu bennaeth eich plentyn.

Gwiriwch a yw eich plentyn:

  • â chynllun cymorth bugeiliol
  • â chynllun ymddygiad cadarnhaol
  • wedi cael eu nodi fel rhywun sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Gofynnwch am adolygiad o'r cynllun cymorth bugeiliol neu unrhyw gynlluniau eraill sydd ar waith ar hyn o bryd i gefnogi ymddygiad eich plentyn.

Os nad ydynt yn cael cymorth ychwanegol, gofynnwch am gael siarad ag aelod o staff i drafod.

Ein cyngor

Nid ydym yn argymell symud eich plentyn i ysgol arall os oes pryderon ymddygiad.

Ni ddylai’r ysgol awgrymu hyn i'ch plentyn.

Gallai aflonyddwch waethygu'r mater.

Os oes angen cymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â ni.

Dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig (AAA)

Dylech chi

Siarad â'r athro sy'n gyfrifol am anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol. Gallwch hefyd e-bostio'r tîm ADY.

Ein cyngor

Rydym yn argymell bod rhieni'n ymgysylltu â thîm ADY neu dîm cymorth bugeiliol yr ysgol.

Os ydych chi dal eisiau trosglwyddo iddi ar ôl gweithio gydag ysgol eich plentyn, bydd angen i chi wneud cais.

Noder mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael yn ystod y flwyddyn ysgol.

Efallai y gwrthodir eich cais hyd yn oed os ydych yn byw yn lleol.

Peidiwch â chyflwyno'r cais hwn fwy nag un tymor ysgol cyn dyddiad dechrau gofynnol eich plentyn.

Nodwch y dyddiadau isod os ydych yn gwneud eich cais cyn y dyddiad dechrau gofynnol. Os gwnewch chi gais:

  • yn ystod tymor yr hydref, bydd angen i chi ddechrau erbyn wythnos gyntaf tymor y gwanwyn
  • yn ystod tymor y gwanwyn, bydd angen i chi ddechrau erbyn wythnos gyntaf tymor yr haf
  • yn ystod tymor yr haf, bydd angen i chi ddechrau erbyn wythnos gyntaf tymor yr hydref

Addysg cyfrwng Cymraeg

Rydym yn croesawu ymholiadau gan rieni sydd am drosglwyddo eu plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg. Gall disgyblion gael cymorth iaith ychwanegol mewn lleoliad trochi i drosglwyddo. Mae hyn yn llwyddiannus fel arfer.

Cysylltwch ag ysgol Gymraeg eich dalgylch neu e-bostiwch y tîm derbyn i ysgolion i gael rhagor o wybodaeth.

Gwneud cais am drosglwyddiad yn ystod y flwyddyn

Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais ar-lein gan ddefnyddio'r Porth Addysg. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01633 656656 i ofyn am ffurflen gais bapur.

Darllenwch y polisi derbyn i ysgolion cyn gwneud eich cais.

Gwnewch gais am drosglwyddiad yn ystod y flwyddyn