I weld bwydlenni a darganfod mwy am brydau ysgol, ewch i wefan Chartwells.

Ysgol gynradd

Mae gan bob disgybl yng Nghasnewydd mewn ysgolion cynradd a gynhelir gan yr awdurdod lleol hawl i brydau ysgol am ddim.

  • mae cinio yn brif bryd poeth gyda phwdin
  • opsiynau ar gyfer diet llysieuol neu halal
  • mae amryw o lysiau, ffrwythau ffres, iogwrt a chaws ar gael
  • mae dŵr ar gael am ddim ac mae pob disgybl mewn ysgolion meithrin a babanod yn derbyn traean o beint o laeth yn rhad ac am ddim bob dydd

Ysgol uwchradd

Y pris am brif bryd a phwdin yn yr ysgol uwchradd yw £2.95.

  • gall disgyblion ysgolion uwchradd ddewis o ddetholiad dyddiol o brydau poeth ac oer
  • opsiynau ar gyfer diet llysieuol neu halal
  • mae'r dewisiadau yn cynnwys tato trwy'r pil, bageti wedi'u llenwi, brechdanau a thortilla wedi'i lenwi
  • ffrwythau a diodydd ffres gyda dŵr ar gael am ddim

Mae Ysgol Uwchradd Bassaleg yn cynnig trefniadau prydau bwyd amgen.

Gofynion dietegol arbennig

Gofynnir i ddisgyblion ag anghenion dietegol arbennig lenwi ffurflen gais am ddiet meddygol, sydd ar gael gan eich ysgol. Mewn rhai achosion efallai yr hoffech ofyn i'ch meddyg am atgyfeiriad dietegydd a fydd yn cysylltu â'r gwasanaeth prydau ysgol os oes angen.