Mae rhaglen haf y gwasanaeth ieuenctid a chwarae yn cynnwys amrywiaeth enfawr o weithgareddau hwyl dan do ac awyr agored, fel sgiliau syrcas, sesiynau coginio a chrochenwaith, numbertots a llawer, llawer mwy.
I weld beth sy'n digwydd ac i gadw lle, ewch i’n tudalen Eventbrite neu e-bostiwch [email protected]
Gallwch hefyd ddefnyddio'r ddolen hon i gadw lle mewn digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar 7 Awst yn Rodney Parade.
Bydd gweithgareddau am ddim drwy'r dydd, rhwng 11am a 3pm Gall y rhai sy'n mynychu hefyd gael cludiant am ddim i’r digwyddiad ar Fws Casnewydd drwy ddangos eu tocyn Eventbrite i'r gyrrwr.
Mae llawer o bethau yn digwydd yn ein llyfrgelloedd hefyd. Gall plant gymryd rhan yn sialens ddarllen yr haf sydd â'r thema "crefftwyr campus" eleni. Galwch draw i’ch llyfrgell leol i glywed mwy.
Mae sefydliadau eraill hefyd yn cynnal digwyddiadau dros wyliau’r haf. mae rhagor o wybodaeth ar www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Children-and-families/Family-Information-Service/Childcare/School-holiday-fun.aspx a www.whatsoncityofnewport.co.uk